2016 Rhif 84 (Cy. 38)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) sy’n nodi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad y disgwylir i aelodau ac aelodau cyfetholedig o awdurdodau perthnasol yng Nghymru ei arddel o dan adran 50(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae adran 50(3) o’r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio cod enghreifftiol sydd wedi ei ddyroddi.

Yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru at ddibenion y Gorchymyn hwn yw: cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn diwygio’r paragraffau a ganlyn o’r cod enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn 2008:

paragraff 1(1), drwy fewnosod diffiniad o “cofrestr o fuddiannau’r aelodau”;

paragraff 1(2), drwy fewnosod diffiniad o “swyddog priodol” a darparu eglurhad o ran cyfeiriadau at bwyllgorau safonau mewn perthynas â chyngor cymuned;

paragraff 3(a), drwy hepgor y cyfeiriad at awdurdodau’r heddlu;

paragraff 6(1)(c), drwy gael gwared ar y gofyniad i aelodau adrodd ar achosion posibl o ymddygiad sy’n groes i’w cod ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

paragraffau 11(4), 15(2), 16(2) a 17, drwy drosglwyddo rhai swyddogaethau o swyddogion monitro i’r swyddogion priodol o gynghorau cymuned;

paragraff 12(2)(b)(iv), i adlewyrchu’r darpariaethau newydd a geir yn Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â lwfansau a thaliadau;

paragraff 14, drwy fewnosod is-baragraffau newydd (2A) a (2B) sy’n caniatáu i aelodau gyflwyno cyflwyniadau ysgrifenedig i gyfarfod sy’n ymdrin â mater y mae gan aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn cysylltiad ag ef. Ni chaniateir cyflwyniadau ysgrifenedig ac eithrio yn yr amgylchiadau hynny lle y byddai caniatâd i aelod wneud cynrychioliadau llafar i gyfarfod mewn perthynas â mater, fel arall, ac os yw awdurdod yr aelod yn mabwysiadu gweithdrefn ar gyfer cyflwyno cyflwyniadau ysgrifenedig, rhaid i aelodau gydymffurfio â’r weithdrefn honno;

mae paragraff 15 yn cael ei ailddatgan. Mae’r ailddatganiad yn egluro y dylid cofrestru unrhyw fuddiant a ddatgelir, pa un a yw’r buddiant hwnnw wedi ei ddatgelu’n unol â pharagraffau 11 neu 15 o’r cod enghreifftiol, yng nghofrestr yr awdurdod o fuddiannau’r aelodau, drwy hysbysu’r swyddog monitro neu, mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol o’r awdurdod hwnnw.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn hepgor paragraff 10(2)(b) o’r cod enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn 2008. Mae hyn yn egluro nad yw aelod o awdurdod perthnasol i’w ystyried i gael buddiant personol mewn mater wrth wneud, neu gymryd rhan mewn, penderfyniadau ar ran yr awdurdod am y rheswm, yn syml, fod y busnes sy’n cael ei ystyried  yn y cyfarfod yn effeithio ar ward yr aelod hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.


 

2016 Rhif 84 (Cy. 38)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed                                27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad

 Cenedlaethol Cymru             1 Chwefror 2016

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 50(2), 50(3), 50(4), 50(4E), 81(2), 81(3) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy([2]);

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal y cyfryw ymgynghoriad ag sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o’r Ddeddf honno;

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y diwygiadau i’r cod ymddygiad enghreifftiol a ddyroddir o dan adran 50(2) yn gyson â’r egwyddorion a bennir yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001([3]) a wnaed yn unol ag adran 49(2), fel sy’n ofynnol gan adran 50(4)(a) o’r Ddeddf honno.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:


Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 a daw i rym ar 1 Ebrill 2016.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a nodir yn Rhan 1 o’r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i Orchymyn 2008;

ystyr “Gorchymyn 2008” (“the 2008 Order”) yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008([4]).

Diwygio’r Atodlen i Orchymyn 2008

2.(1)(1) Mae’r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i Orchymyn 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Rhan 1—

(a)     ym mharagraff 1(1), yn y man priodol mewnosoder—

“ystyr “cofrestr o fuddiannau’r aelodau” (“register of members’ interests”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gedwir o dan adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;”;

(b)     yn lle paragraff 1(2) rhodder—

“(2) Mewn perthynas â chyngor cymuned—

(a)   ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog o’r cyngor hwnnw o fewn ystyr adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972([5]); a

(b)   ystyr       “pwyllgor safonau” (“standards committee”) yw pwyllgor safonau’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol sydd â swyddogaethau mewn perthynas â’r cyngor cymuned y mae’n gyfrifol amdano o dan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.”

(3) Yn Rhan 2—

(a)     ym mharagraff 3(a) yn lle “awdurdod heddlu neu Fwrdd” rhodder “Bwrdd”;

(b)     ym mharagraff 6(1)(c) hepgorer “i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac”.

(4) Yn Rhan 3—

(a)     hepgorer paragraff 10(2)(b);

(b)     ym mharagraff 11(4), ar ôl “swyddog monitro eich awdurdod” mewnosoder “, neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod”;

(c)     yn lle paragraff 12(2)(b)(iv) rhodder—

                    “(iv)  â swyddogaethau eich awdurdod mewn cysylltiad â lwfans neu daliad a wneir yn unol â darpariaethau Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011([6]), neu lwfans neu bensiwn a ddarperir o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989([7]);”;

(d)     ym mharagraff 14—

                           (i)    yn is-baragraff (1), ar ôl “is-baragraffau (2),” mewnosoder “(2A),”;

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Os oes gennych fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef cewch gyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig i gyfarfod sy’n ymwneud â’r busnes hwnnw, ar yr amod y caniateir i’r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod at y diben o wneud cynrychioliadau, ateb cwestiynau neu roi tystiolaeth sy’n ymwneud â’r busnes, pa un ai o dan hawl statudol neu fel arall.

(2B) Pan fyddwch yn cyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig o dan is-baragraff (2A), rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw weithdrefn y caiff eich awdurdod ei fabwysiadu ar gyfer cyflwyno cynrychioliadau o’r fath.”

(5) Yn Rhan 4—

(a)     yn lle paragraff 15 rhodder—

Cofrestru Buddiannau Personol

15.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl—

(a)   i god ymddygiad eich awdurdod gael ei fabwysiadu neu i ddarpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol hwn gael eu cymhwyso i’ch awdurdod; neu

(b)  i chi gael eich ethol neu eich penodi i swydd (os digwydd hynny’n ddiweddarach),

gofrestru eich buddiannau personol, os ydynt yn dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a), yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.

(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw fuddiant personol newydd sy’n dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a), gofrestru’r buddiant personol newydd hwnnw yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.

(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw newid i fuddiant personol a gofrestrwyd sy’n dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a), gofrestru’r newid hwnnw yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod, neu, yn achos cyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod.

(4) Nid yw is-baragraffau (1), (2) a (3) yn gymwys i wybodaeth sensitif a benderfynir yn unol â pharagraff 16(1).

(5) Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys os ydych yn aelod o awdurdod perthnasol sy’n gyngor cymuned pan fyddwch yn gweithredu yn eich capasiti fel aelod o awdurdod o’r fath.

(6) Pan fyddwch yn datgelu buddiant personol yn unol â pharagraff 11 am y tro cyntaf, rhaid i chi gofrestru’r buddiant personol hwnnw yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod, neu, yn achos cyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod.”;

(b)     ym mharagraff 16(2), ar ôl “swyddog monitro eich awdurdod” mewnosoder “, neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod”;

(c)     ym mharagraff 17, ar ôl “swyddog monitro eich awdurdod” mewnosoder “, neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod”.

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

 



([1])           2000 p. 22.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 50, 81 a 105 i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           O.S. 2001/2276 (Cy. 166) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929 (Cy. 214).

 

([4])           O.S. 2008/788 (Cy. 82).

([5])           1972 p. 70.

([6])           2011 mccc 4.

([7])           1989 p. 42.